Eisteddfod Ddwl Papurau Bro Ceredigion

Gwirfoddolwyr a chefnogwyr Papur Bro Clonc yn ennill Eisteddfod Papurau Bro gyda'r beirniad Dewi Pws a'r cyflwynydd Geraint Lloyd.
Cynhaliwyd Eisteddfod Ddwl Papurau Bro Ceredigion yn Neuadd Felin-fach Nos Wener 9fed Medi 2011. Rhan o fenter Fforwm Papurau Bro Ceredigion oedd hyn er mwyn ceisio annog cydweithio rhwng swyddogion yr holl bapurau yn y sir. Er y rhannu syniadau a fu rhwng y papurau dros y blynyddoedd diwethaf, cystadlu yn erbyn ei gilydd oedd y nod ar y noson hon.

Trefnwyd y noson ar y cyd rhwng Megan Jones, Papur yr Angor a swyddogion Cered. Daeth tyrfa dda ynghyd a chafwyd noson o adloniant yng nghwmni cystadleuwyr o sawl papur gan gynnwys Yr Angor, Y Ddolen, Llais Aeron, Y Garthen a Clonc. Y beirniad gwadd oedd Dewi Pws a chyflwynwyd yr eitemau gan Geraint Lloyd.
Cystadleuaeth gyntaf y noson oedd dweud Stori Gelwydd a daeth Eifion Davies, Drefach yn drydydd. Daeth Emyr Jenkins, Llanybydder yn ail wrth ganu’r organ geg ac Einir Ryder, Cwmsychbant yn drydydd yn darllen darn heb ei atalnodi.
Daeth tipyn o lwyddiant i Clonc hefyd yn y cystadlaethau gwaith cartref. Cafodd Dylan Lewis, Cwmann gyntaf ac ail yng nghystadleuaeth ysgrifennu slogan i hysbysebu papur bro ac yng nghystadleuaeth i ysgrifennu portread aelod o’r teulu i rai dan 18 oed daeth Morgan Lewis, Cwmann yn gyntaf a Mari Lewis, Cwmann yn ail.
Uchafbwynt y noson oedd cystadleuaeth y sgets. Actorion Yr Angor oedd y cyntaf ar y llwyfan gyda sgets wedi ei lleoli mewn pwyllgor blynyddol. Roedd y gynulleidfa yn rowlio chwerthin ar y cymeriadau doniol yn pwyso a mesur llwyddiannau’r papur bro.

Sgets Clonc oedd wedyn gydag Einir Ryder, Cwmsychbant; Enfys a Gwawr Hatcher, Gorsgoch; Heilyn Thomas, Llanwnnen ac Arwel Jenkins, Llanybydder yn actio. Golygfa wrth osod papur bro yn yr hen ffordd o dorri a gludo oedd gan Clonc. Sgets a ysgrifennwyd gan Dylan Iorwerth, Llanwnnen. Cafwyd tipyn o sbri yn eu gwylio yn ymbalfalu dros ei gilydd a gwneud sbort ar bapurau bro eraill. Roedd gwylio Arwel yn actio fel babi yn ei gewyn yn ddoniol iawn. I gloi’r gystadleuaeth wedyn daeth tair gwraig werinol o bapur Llais Aeron i’r llwyfan gan ddarllen y papurau bro ac adrodd penillion yn llawn hiwmor. Roedd Dewi Pws wedi ei blesio’n arw. Yn y gystadleuaeth hon, Yr Angor aeth â hi, Llais Aeron yn ail a Clonc yn drydydd.
Ond pa bapur enillodd Darian y Lolfa ar ddiwedd y noson am y marciau uchaf? Roedd hi’n agos iawn iawn, ond Clonc enillodd yr eisteddfod gyda’r Angor yn ail gyda dim ond marc o wahaniaeth a Llais Aeron yn drydydd.
Buddugoliaeth i Bapur Bro Clonc. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n cystadlu a diolch i bawb a fu’n cefnogi ac yn cynorthwyo.

Adroddiad a fideo Eisteddfod Papurau Bro Ceredigion 2012.