Eisteddfod Ddwl Papurau Bro Ceredigion 2013
Cynhaliwyd Eisteddfod Ddwl Papurau Bro Ceredigion nos Wener 11eg Hydref yn Neuadd Felinfach, a daeth buddugoliaeth i Bapur Bro Clonc unwaith eto. Arweinydd y noson oedd Geraint Lloyd BBC Radio Cymru, a’r beirniaid oedd Gareth a Cerys Lloyd, Talgarreg. Trefnwyd y noson gan enillwyr y llynedd sef gwirfoddolwyr Yr Angor gyda chymorth Rhodri Francis, Cered. Mae naw papur bro i gyd yn y sir ond Papur Bro Clonc enillodd y nifer fwyaf o bwyntiau ar y noson gyda’r Angor yn ail a’r Ddolen yn drydydd.
Dyma ganlyniadau Clonc: Dweud Stori Ddigri: ail - Rhys Bebb Jones, Llanbed; Darllen darn heb atalnodi: cyntaf - Hedydd Thomas, Llanbed; Sgets: Cydradd gyntaf - Clonc a Yr Angor; Côr Chwibanu: cyntaf – Clonc dan arweiniad Elonwy Davies Llanybydder; Peintio hoff gymeriad: cyntaf Ioan, Ysgol y Dderi, ail Shivawn, Ysgol y Dderi, trydydd Ben, Ysgol y Dderi; Blog: cyntaf Morgan Lewis, Cwmann, ail Mari Lewis, Cwmann; Poster: ail Dylan Lewis, Cwmann; Limrig: cyntaf Janet Evans, Llanbed. Dyma limerig buddugol Janet:
Mi welais drwy gornel fy llygad
Miss Jones yn cusanu’r Offeiriad.
Aeth pethau’n reit boeth
A’r ddau bron yn noeth.
Dychmygwch beth oedd y canlyniad.
Hyfforddwyd y sgets gan Gethin Morgan, Cwmann a’r actorion oedd Gethin, Morgan Lewis Cwmann, Lowri Jones Llanbed, Meirion Thomas Llanbed ac Aron Dafydd Silian. Dyna beth oedd hwyl!
Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi. Roedd yn noson ddymunol iawn. Gofynnir am eich cymorth eto’r flwyddyn nesaf pan fydd gwirfoddolwyr Clonc yn gyfrifol am drefnu’r noson.






