Eisteddfod Ddwl Papurau Bro Ceredigion 2012
Cynhaliwyd Eisteddfod Ddwl Papurau Bro Ceredigion yn Neuadd Felinfach nos Wener 12fed Hydref. Enillwyr y llynedd sef Papur Bro Clonc oedd yn trefnu. Y beirniad oedd Elin Williams, Cwmann a Geraint Lloyd, Radio Cymru yn arwain. Y papur bro gyda’r nifer uchaf o farciau eleni oedd Yr Angor, gyda Llais Aeron yn ail a Y Tincer yn drydydd.
Dyma’r canlyniadau - Darn heb atalnodi: 1. Yvonne Griffiths, Y Garthen; 2. Laura Lewis, Llais Aeron; 3. Gweneira, Yr Angor. Slogan: 1. Anwen Pierce, Y Tincer; 2. Anwen Pierce, Y Tincer; 3. Dana Edwards, Yr Angor. Llwyau: 1. Sue Jones Davies, Yr Angor. Brawddeg: 1. Edwin Jones, Llais Aeron; 2. Anwen Pierce, Y Tincer; 3. Megan Richards, Llais Aeron. Stori Ddoniol: 1. Irene Thomas, Llais Aeron; 2. Dana Edwards, Yr Angor. Dysgwyr: 1. Nicola Jones, Y Garthen; 2. Juliett Revell, Sir Benfro. Limrig: 1. Megan Richards, Llais Aeron; 2. Dana Edwards, Yr Angor; 3. Megan Richards, Llais Aeron. Poster: 1. Fflur Edwards, Yr Angor; 2. Anest Eirug, Yr Angor; 3. James Michael, Yr Angor. Sgets: 1. Llais Aeron; 2. Yr Angor. Côr Garglo: 1. Yr Angor; 2. Llais Aeron.
Gwyliwch Gôr Garglo buddugol Papur Bro Yr Angor uchod.
